top of page
front%20page%20A%20copy_edited.png

ARDDANGOSFA 2020

 

Mae pob arddangosfa derfynol o waith myfyrwyr cyrsiau Celfyddyd Gain yn unigryw; dyma benllanw tair blynedd o ddatblygu gwaith ac mae arddangosfa'r grŵp yn arddangos ymdrech bersonol, dawn ac uchelgais. 

 

Yr hyn sy'n gyffredin rhwng arddangosfa pob myfyriwr yw'r ffaith bod y gwaith wedi cael ei greu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud; roedd heriau argyfwng Covid 19 yn gwbl ddigynsail. Newidiwyd y modiwl yr arddangosfa derfynol yn sylweddol; yn hytrach na gwaith stiwdio yn y coleg bu'n rhaid iddynt weithio gartref a chynnal cyfarfodydd grŵp a thiwtorialau ar-lein, ac ni thrawsnewidiwyd y stiwdio yn ofod arddangosfa myfyrwyr eleni. Ar ddiwedd mis Mawrth, roedd rhaid i bawb fynd adref.

 

Mae'n glod i'r grŵp hwn o fyfyrwyr eu bod wedi parhau i greu gwaith. Aethant ati i addasu, gwneud y mwyaf o ofod gwaith yn y cartref gan glirio garejis a llofftydd a llunio arddangosfeydd terfynol ar ffurf darluniau, ffotograffau ac ar gyfryngau digidol gwahanol.

 

Mae'r arddangosfa hon ar y we yn dangos na wnaethant gyfaddawdu, colli egni nac uchelgais.

Mae'n cyflwyno teithiau personol i gyrraedd eu cyrchfan er gwaethaf popeth, ni fu cyfaddawdu ar eu gweledigaeth a'u bwriad ac fe wireddwyd hunaniaeth artistig pob unigolyn.

 

Rydym yn llongyfarch graddedigion 2020, yn unedig er gwaethaf yr anawsterau a wynebwyd, ac yn gwbl unigryw yn y modd y cyflwynwyd eu gwaith gorffenedig yn y sioe hon. Rydym yn dymuno'r gorau iddynt yn y dyfodol.

 

Helen Jones

Emrys Williams

EXHIBITION 2020

 

Every graduate Fine Art Exhibition is unique ; it is the culmination of three years of development, resulting in a  group exhibition that showcases personal endeavour, talent and ambition.

 

This year what unites all student shows is that they have been produced in the year of the lockdown; the Covid 19 crisis presented new challenges to courses never seen before. The final exhibition module was suddenly profoundly changed; homeworking, online tutorials and group meetings replaced college studio work, the annual transformation of the studios from workspaces to student exhibition did not happen. At the end of March everyone had to go home.

 

It is a credit to this group of students that they carried on making work, they adapted, they improvised in home workspaces, clearing garages and lofts to make work, they visualised final displays through drawings, photography and different forms of digital media.

 

This web- based exhibition proves that they did not compromise or lose energy or ambition.

It presents individual journeys that have arrived at the destination nevertheless, their vision and drive was not compromised and each artistic identity was realised

 

We congratulate the graduates of 2020, united in the difficulties they faced, unique in the presentation of their individual works in this show. We wish them well in their future careers.

 

 

 

 

Helen Jones

Emrys Williams

bottom of page